CYCHOD PEN LLŶN
Mae Rigeta Aberdaron wedi bod
mewn bodolaeth dros gan mlynedd bellach, ond nid oes sicrwydd pa
flwyddyn y cynhaliwyd y gyntaf.
Cychod
unigryw yw’r cyfan bron ohonnynt am nad ydynt wedi cael eu hadeiladu
ar gyfer hwylio, ond bu iddynt gael eu cyfaddasu
flynyddoedd
lawer yn ôl i gario hwyliau i gynorthwyo cyrff blinedig y pysgotwyr
cimychiad i ddod yn ôl wedi diwrnod llafurus ar y mor.
Cychod
dau flaen oedd y rhai cyntaf, ond dros gyfnod o amser bu iddynt ledu
y tu ôl er mwyn cael mwy o gryfder yn y cwch i’w galluogi i dodi’r
cewyll. Mae gwaelod y cwch yn parhau i fod yn hollol syth.
Heddiw
mae’r rhan fwyaf o gychod a adeiladir yn Llyn yn parhau i gadw’r hen
draddodiad, er sicrhau model gwreiddiol, er na welir unrhyw ddau
gwch yn hollol yr un fath. Ceir gwahanieurhau mewn mesurau hyd a
lled y cychod, a dyna un rheswm pam nad yw’n bosibl rhoddi
nlaengychwyniad i’r cychod, dibyna pwy a enillir lawer iawn ar y
tywydd a geir.
|